| Digwyddiadur |
| Dyddiad | Amser | Beth | Ble |
| 10/09/2010 Dydd Gwener Poster | 12:00 | Menter Caerffili Cylch Cinio. Dewch i gael cinio gyda ni ac ymarfer eich Cymraeg gyda dysgwyr a siaradwyr eraill. I archebu lle, gysylltwch â Menter Caerffili 01443 820913 menter@caerffili.org | Tafarn Arglwydd Nelson, Nelson |
| 11/09/2010 Dydd Sadwrn Poster | 10:30 | Menter Caerffili & Sustrans Taith Beicio. Mae'r daith yn addas i bawb felly dewch â'r teulu i fwynhau tipyn bach o awyr iach! Gellir llogi beiciau am ddim, ond rhaid eu harchebu gyda Menter Caerffili o flaen llaw. Bydd y daith yn para tua 1.5 awr | Cwrdd ym maes parcio Ty Penallta (swyddfeydd y Cyngor), Tredomen. |
| 13/09/2010 Dydd Llun | 8:00 | Canolfan Gymunedol Gristnogol Siloh Nosweithiau Cymreig. Dewch i fwynhau siarad a chanu yn Gymraeg! Noson i fwynhau cymdeithasu ac ail gysylltu gyda’n diwylliant cyfoethog Cristnogol Cymreig. Croeso i ddysgwyr a siaradwyr rhugl. Rydym yn cwrdd yn fisol, ar ail nos Lun pob mis. | Canolfan Gymunedol Gristnogol Siloh, Stryd Oakfield, Ystrad Mynach |
| 14/09/2010 Dydd Mawrth Poster | 1:30-3:00yp | Menter Caerffili Clwb Darllen Caerffili. Ydych chi'n mwynhau darllen a thrafod yn Gymraeg? Beth am ymuno â'n clybiau darllen sy'n rhoi cyfle i ddarllen amrywiaeth o bethau mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar. Mae'r Clwb Darllen yn cwrdd unwaith y mis ar brynhawn dydd Mawrth. Cysylltwch â ni er mwyn derbyn pecyn ar gyfer y clwb nesaf. | Llyfrgell Caerffili |
| 17/09/2010 Dydd Gwener Poster | 7:30yh | Menter Caerffili Noson Gwis Cwis y Fenter yn Nhafarn y Capel, Gilfach. Dewch i gymryd rhan yn ein cwis a fydd yn addas i siaradwyr rhugl a dysgwyr. Dewch â thîm neu ymuno ag un ar y noson. Pris: £3 yn cynnwys cwis, brechdanau a sglodion! Cysylltwch â ni ar 01443 820913/emilycole@mentercaerffili.org i gofrestru. | Tafarn Y Capel, Gilfach Fargod |
| 21/09/2010 Dydd Mawrth Poster | 10:30-13:00 | Menter Caerffili Clwb Darllen Y Coed Duon. Ydych chi'n mwynhau darllen a thrafod yn Gymraeg? Beth am ymuno â'n clybiau darllen sy'n rhoi cyfle i ddarllen amrywiaeth o bethau mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar. Mae Clwb Darllen Y Coed Duon yn cwrdd unwaith y mis ar fore dydd Mawrth. Cysylltwch â ni er mwyn derbyn pecyn ar gyfer y clwb nesaf. | Llyfrgell Y Coed Duon |
| 21/09/2010 Dydd Mawrth Poster | 2:00yp | Menter Caerffili - Codi Sbwriel! Codi Sbwriel! Mae Menter Caerffili'n trefnu prynhawn o godi sbwriel fel rhan o Wythnos Cymru Daclus 2010. Byddwn ni'n codi sbwriel o'r llwybr cerdded sy'n dechrau ger Teras Bryste ym Margod. Cofrestrwch nawr a helpwch ni i wneud gwahaniaeth! Darperir offer gan Menter Caerffili, ond gwisgwch esgidiau a dillad addas. | Teras Bryste, Bargoed |
| 25/09/2010 Dydd Sadwrn Poster | 10:00-12:00 | Menter Caerffili Sadwrn Siarad Y Coed Duon. Dewch i gael paned ar fore Sadwrn i siarad Cymraeg gyda siaradwyr a dysgwyr eraill mewn awyrgylch anffurfiol a chroesawgar. Croeso i bawb - siaradwyr rhugl a dysgwyr! | Wetherspoons, Y Coed Duon |
| 14/10/2010 Dydd Iau | 7:30yh | Cylch Llenyddol Bro Elyrch Cyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol Pen y Cae. Am ragor o fanylion cysylltwch â Ben Jones 02920 862428 | Ysgol Bro Sannan, Aberbargoed |
| 30/10/2010 Dydd Sadwrn | 10:00 - 12:00 | Menter Caerffili a Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili AM DDIM! Gweithdai blasu i Oedolion. Ydych chi eisiau dysgu rhywbeth newydd trwy gyfrwng y Gymraeg? Dewch i weithdy blasu i roi cynnig ar ddysgu sgil newydd - am ddim! Dewiswch: **Yoga i ddechreuwyr** **Defnyddio'r We, e-bost ac adnoddau ar-lein** **Crochenwaith** Bydd y gweithdai'n addas i ddysgwyr. Cofrestrwch nawr trwy ffonio Menter Caerffili ar 01443 820913, neu e-bostiwch menter@caerffili.org | Canolfan Addysg Oedolion (Neuadd y Gweithwyr), Bedwas |
| 11/11/2010 Dydd Iau | 7:30yh | Cylch Llenyddol Bro Elyrch. Y Parchedig Gwilym Morris – y bardd a aeth yn angof. Am ragor o fanylion cysylltwch â Ben Jones 02920 862428 | Ysgol Bro Sannan, Aberbargoed |
| Dyddiad | Amser | Beth | Ble |
| Wythnosol Dydd Llun Poster | . | Bore Coffi Dewch i gwrdd â siaradwyr a dysgwyr Cymraeg eraill mewn awyrgylch anffurfiol a chyfforddus. | Lolfa Goffi Fireside, Bargôd |
| Wythnosol Dydd Llun | 10:30 - 11:30 | Bore Coffi Bedwas Mae grwp o ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg yn cwrdd pob wythnos ym Medwas i ymarfer Cymraeg, i gymdeithasu ac i chwarae scrabl Cymraeg mewn awyrgylch anffurfiol a chroesawgar. Croeso i bawb! | Caffi'r Graig / The Rock Cafe, Bedwas |
| Wythnosol Dydd Llun Poster | 7:30yh | Ymarfer Cymraeg Eisiau ymarfer Cymraeg dros yr haf? Bydd grwp anffurfiol yn cwrdd bob nos llun trwy'r haf yn dechrau Orffennaf 13eg. Croeso i bob level. | Tafarn y White Hart, Bedwas |
| Wythnosol Dydd Llun Poster | 19:30 | Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a'r Cymoedd Ymarfer Côr yr Eisteddfod. Ymunwch gyda'r arweinydd, Alun Guy, i ganu a mwynhau Offeren Requiem Mozart yn D leiaf. | Capel Libanus, Ffordd Libanus, Glyn Ebwy, |
| Wythnosol Dydd Llun | 7:30yh | Nosweithiau Cymraeg Eisiau ymarfer Cymraeg drwy'r haf? Bydd grŵp anffurfiol yn cwrdd bob nos Lun (ond am Wyl y Banc) gan ddechrau 21ain o Fehefin. Croeso mawr i bob lefel. Yn rhad ac am ddim! | The White Hart, Bedwas |
| Wythnosol Dydd Mawrth | 19:00-20:00 | Côr Cwm Ni Ydych chi'n mwynhau canu, cymdeithasu a chwrdd aâ phobl newydd yn Gymraeg? Beth am ymuno â Chôr Cwm Ni bob nos Fawrth. Croeso i bawb, yn ddysgwyr neu siaradwyr rhugl! | Ysgol Gymraeg Trelyn, Pengam |
| Wythnosol Dydd Mawrth Poster | 10:00-11:00 | Bore Coffi Cyfle i gwrdd â dysgwyr a siaradwyr Cymraeg eraill mewn awyrgylch anffurfiol a chroesawgar. Croeso i bawb! | Caffi Costa, Caerffili |
| Wythnosol Dydd Mawrth Poster | 10:00-11:30 | Menter Iaith Sesiynau Chwarae a boreau coffi i blant a'u rheini. Ar gyfer plant 1-4 blwydd oed. Amrywiaeth o deganau. Dewch i chwarae, i ganu ac i wneud ffrindiau newydd. Pris: £1 y rhiant (does dim ots am faint o blant) | Eglwys St Pedr, Stryd fasnachol, Aberbargoed |
| Wythnosol Dydd Mawrth | 6:30-8:30yh | Menter Caerffili & Urdd Gobaith Cymru Clwb Ieuenctid Cymraeg. Dewch i fwynhau amrywiaeth o weithgareddau: chwaraeon, celf, tripiau, crefft, drama a mwy! Ar gyfer pawb yn Ysgolion Gyfun Cymraeg. | YMCA Bargod, Aeron Place, Gilfach |
| Wythnosol Dydd Mercher Poster | 4:15-5:15 | Clwb Dawns Clwb Dawns Menter Caerffili i blant ym mylnyddoedd Ysgol 3,4,5 a 6. Dewch i ddysgu symudiadau dawns newydd gydag arweinyddion dawns. Pob wythnos yn ystod tymor yr Ysgol. £2 y sesiwn. | Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, Heol Gellihaf, Trelyn |
| Wythnosol Dydd Iau Poster | 10.30-11.30 | Bore Coffi i Ddysgwyr a Siaradwyr Cymraeg | Y Sirhowy, Y Coed Duon |
| Wythnosol Dydd Iau | 19:00-20:00 | Menter Iaith Sir Caerffili Clwb CIC. Ar gyfer Disgyblion blwyddyn 7-8 Ysgol Gyfun Cwm Rhymni. Am fanylion pellach cysylltwch â Swyddog Ieuenctid y Fenter Catrin Ann ar 01443 829714 neu CatrinAnn@urdd.org | |
| Wythnosol Dydd Iau | . | Clwb Cymraeg Beddllwynog. Mae Cymdeithas Gymraeg Beddllwynog (Bedlinog) yn cwrdd am 8.00yh bob nos iau DROS YR HAF yn y Clwb Top ym Meddllwynog. Croeso cynnes i bawb | Clwb Top, Beddllwynog (Bedlinog) |
| Wythnosol Dydd Gwener | 17:00-18:00 | Urdd Gobaith Cymru Clwb pêl droed merched. Bob nos Wener ar gyfer blwyddyn 4-6. Am fanylion pellach cysylltwch â Helen Greenwood ar Heleng@urdd.org | Canolfan Hamdden Hoelddu |
| Wythnosol Dydd Sadwrn | . | Bravo. Dosbarthiadau Drama, Llais & Symud. Sesiynau wythnosol ar gyfer plant 4-12 oed, yn ystod tymhorau'r ysgolion. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â 07863 955134 neu info@bravoschools.com | Canolfan Siloh, Ystrad Mynach |
| Wythnosol Dydd Llun i Gwener | 08:00-09:00 | Menter Iaith Sir Caerffili Cynlluniau Brecwast cyn ysgol, croeso i blant o ysgolion Cymraeg rhwng 4-11 oed. Cost ddyddiol £2 y plentyn. | Clwb Ysgol Gymraeg Caerffili, Clwb Ysgol Gymraeg y Castell, Clwb Ysgol Gymraeg Ifor Bach, Clwb Ysgol Gymraeg Bro Allta, Clwb yr Enfys Ysgol Gymraeg Cilfach, Clwb Ysgol Gymraeg Trelyn, Clwb Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon, Clwb Ysgol Gwmraeg Bro Sannan |
| Wythnosol Dydd Llun i Gwener | 15:30-17:30 | Menter Iaith Sir Caerffili Cynlluniau ar ôl ysgol, croeso i blant o ysgolion Cymraeg rhwng 4-11 oed. Cost ddyddiol £3.50-£4.50 y plentyn | Clwb Ysgol Gymraeg Caerffili, Clwb Ysgol Gymraeg y Castell, Clwb Ysgol Gymraeg Ifor Bach, Clwb Ysgol Gymraeg Bro Allta, Clwb yr Enfys Ysgol Gymraeg Cilfach, Clwb Ysgol Gymraeg Trelyn, Clwb Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon, Clwb Ysgol Gwmraeg Bro Sannan |