





| Menter Caerffili Cylch Cinio. Dewch i gael cinio gyda ni ac ymarfer eich Cymraeg gyda dysgwyr a siaradwyr eraill. I archebu lle, gysylltwch â Menter Caerffili 01443 820913 menter@caerffili.org Tafarn Arglwydd Nelson, Nelson 12:00 Dydd Gwener 10/09/2010 |
| Menter Caerffili & Sustrans Taith Beicio. Mae'r daith yn addas i bawb felly dewch â'r teulu i fwynhau tipyn bach o awyr iach! Gellir llogi beiciau am ddim, ond rhaid eu harchebu gyda Menter Caerffili o flaen llaw. Bydd y daith yn para tua 1.5 awr Cwrdd ym maes parcio Ty Penallta (swyddfeydd y Cyngor), Tredomen. 10:30 Dydd Sadwrn 11/09/2010 |
| Canolfan Gymunedol Gristnogol Siloh Nosweithiau Cymreig. Dewch i fwynhau siarad a chanu yn Gymraeg! Noson i fwynhau cymdeithasu ac ail gysylltu gyda’n diwylliant cyfoethog Cristnogol Cymreig. Croeso i ddysgwyr a siaradwyr rhugl. Rydym yn cwrdd yn fisol, ar ail nos Lun pob mis. Canolfan Gymunedol Gristnogol Siloh, Stryd Oakfield, Ystrad Mynach 8:00 Dydd Llun 13/09/2010 |
| Menter Caerffili Clwb Darllen Caerffili. Ydych chi'n mwynhau darllen a thrafod yn Gymraeg? Beth am ymuno â'n clybiau darllen sy'n rhoi cyfle i ddarllen amrywiaeth o bethau mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar. Mae'r Clwb Darllen yn cwrdd unwaith y mis ar brynhawn dydd Mawrth. Cysylltwch â ni er mwyn derbyn pecyn ar gyfer y clwb nesaf. Llyfrgell Caerffili 1:30-3:00yp Dydd Mawrth 14/09/2010 |
| Menter Caerffili Noson Gwis Cwis y Fenter yn Nhafarn y Capel, Gilfach. Dewch i gymryd rhan yn ein cwis a fydd yn addas i siaradwyr rhugl a dysgwyr. Dewch â thîm neu ymuno ag un ar y noson. Pris: £3 yn cynnwys cwis, brechdanau a sglodion! Cysylltwch â ni ar 01443 820913/emilycole@mentercaerffili.org i gofrestru. Tafarn Y Capel, Gilfach Fargod 7:30yh Dydd Gwener 17/09/2010 |