Newyddion 1

Llwyddiant Swyddog Y Fenter yng Nghystadleuaeth Dysgwyr y Flwyddyn 2010

Llwyddiant Swyddog Y Fenter yng Nghystadleuaeth Dysgwyr y Flwyddyn 2010
Hoffai staff a Phwyllgor Rheoli Menter Iaith Sir Caerffili estyn llongyfarchiadau mawr i Helen Price, ein Swyddog Treftadaeth Ddigidol yn sgil ei llwyddiant mawr yng Nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn 2010 yn Eisteddfod Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd. Er na enillodd Helen, rydym yn falch iawn ohoni gan iddi gyrraedd y rownd derfynol gyda dim ond tri o ddysgwyr eraill wedi’r rownd gyntaf pan gystadlodd 26 o ddysgwyr.
Mae Helen wedi bod yn aelod gweithgar tu hwnt o dîm y Fenter am y ddwy flynedd diwethaf fel Swyddog ein Prosiect Treftadaeth. Mae hi wedi bod wrthi’n gweithio gyda nifer o bobl leol ar greu straeon digidol sy’n cofnodi elfennau amrywiol o dreftadaeth leol.
Mae hi hefyd wedi gwneud cyfraniad ehangach i’n gwaith ac fel dysgwraig profiadol erbyn hyn roedd hi wedi trefnu Diwrnod Dysgwyr fel rhan o wythnos addysg oedolion nol ym mis Mai. Yn ogystal, mae hi’n cyfrannu’n helaeth i’n gweithgareddau a’n gwaith yn gyffredinol.
Daw Helen yn wreiddiol o'r Coed Duon ac wedi bod wrthi’n dysgu Cymraeg mewn dosbarthiadau nos ers rhyw 6 mlynedd. Penderfynodd Helen roi’r gorau i’w swydd yng Nghaerdydd ar y pryd er mwyn dysgu rhagor o Gymraeg a threulio amser gyda’i mab Dafydd. Dilynodd dosbarthiadau uwch a chwrs Lefel A yn y Gymraeg. Mae’r ffaith ei bod hi bellach yn gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn ddyddiol yma gyda ni yn y Fenter yn adlewyrchiad o’i llwyddiant ysgubol. Llongyfarchiadau mawr i ti Helen!
13/08/2010

Ffiliffest – Gŵyl Gymraeg Menter Caerffili

Ffiliffest – Gŵyl Gymraeg Menter Caerffili
Dros y penwythnos hwn daeth dros 1,600 o ymwelwyr i Ŵyl Gymraeg newydd Menter Caerffili, sef Ffiliffest. Ar ôl blwyddyn o gynllunio a pharatoi, roedd yr Ŵyl yn llwyddiannus iawn, gyda thywydd braf, heulog a phoeth iawn.

Ar faes chwarae Owain Glyndŵr, dechreuodd y dathliadau bore Dydd Sadwrn gyda chyfarch arbennig gan Faer Bwrdeistref Sir Caerffili, Cynghorydd James Fussell. Dywedodd ei bod hi’n hen bryd i Gaerffili gael Gŵyl Gymraeg a’i fod e’n gobeithio bod yr Ŵyl yn parhau am flynyddoedd i ddod. Wedyn, diddanwyd y gynulleidfa gan Triawd a hefyd gan Ysgolion Cymraeg yn cynnwys Ysgol Bro Allta a phlant bach o Ysgol Penalltau. Ar ddiwedd y prynhawn, daeth Martyn Geraint i ddiddanu’r plant. Roedd yna hefyd amrywiaeth o weithgareddau celf i blant a hefyd ymweliad gan Glown Monkey Mania o Bontllanfraith.

Ar y Dydd Sul dawns oedd y thema, gyda Dawnswyr Nantgarw yn perfformio gyda dawnswyr gwerin Ysgol y Castell. Roedd hefyd berfformiadau ardderchog gan blant o Academi Dawns Machen a Dawnswyr Stryd lleol. Roedd gweithdy i ddysgu sgiliau syrcas a hefyd berfformiadau amrywiol gan Circus Funksters. Hefyd, daeth Sali Mali a Sam Tan i ymuno â’r hwyl ac i ddawnsio i’r “Macarena” gyda gwirfoddolwyr Voice Radio, gorsaf Radio Cymunedol Sir Caerffili. Roedd band Canolfan Gymunedol Gristnogol Siloh yna i ganu emynau a chaneuon traddodiadol, a gorffennodd yr Ŵyl gyda pherfformiad ardderchog gan Côr Cwm Ni.

Yn ogystal â’r perfformiadau hyn, roedd amrywiaeth o stondinau gan grefftwyr a chynhyrchwyr bwyd lleol yn y Babell Fawr ac o gwmpas y safle. Roedd dewis o fwydydd ethnig hefyd, yn cynnwys bwyd Indïaidd o Samosaco, bwyd Lebanese o Falafel Wales a hefyd fwyd Persaidd. Ar gyfer y rhai sy’n hoffi bwydydd mwy traddodiadol, roedd peis a phastai flasus a hefyd gacennau hyfryd gan Merched y Wawr!

Mae’r Fenter yn ddiolchgar iawn i’r gwirfoddolwyr a gymerodd rhan yn Ffiliffest, yn arbennig i wirfoddolwyr Voice Radio. Diolch hefyd i’r holl ymwelwyr am ein cefnogi. Rydym yn paratoi ar gyfer Ffiliffest 2011 ac edrychwn ymlaen at eich gweld eto!

Gellir gweld y lluniau i gyd o Ffiliffest yma.
Ffiliffest – Gŵyl Gymraeg Menter Caerffili
28/06/2010

Fedrwch chi....?

Fedrwch chi....?
Mae clybiau Pyramid yn clybiau arbennig sydd wedi’u datblygu ar gyfer plant mewn ysgolion cynradd sydd yn dawel, swil, dioddef gan ddiffig hyder ac yn ffeindio hi’n anodd i greu ffrindiau.
Mae’r clybiau yn rhedeg ar ôl ysgol am awr a hanner ac yn cynnwys gweithgareddau gwahanol megis coginio, amser cylch, celf a chrefft a llawer mwy!!!!

Hoffech chi wirfoddoli?

Fe fyddwch chi’n derbyn:
Hyfforddiant am ddim
Profiad gweithio gyda phlant
Cyfle i godi hyder
Creu ffrindiau newydd
Cyfleoedd gyrfa newydd

Cysylltwch â Rhiannon Tucker 01443 820913 am ragor o wybodaeth neu i gofrestru'ch diddordeb


11/08/2010

O Gelligaer i Gapel Gwladus

O Gelligaer i Gapel Gwladus
Roedd y tywydd yn berffaith ar gyfer ein taith gerdded yng Ngelligaer ddydd Sadwrn. Doedd dim un cwmwl i’w weld, ac o ganlyniad i’r llosgfynydd yn Eyjafjallajoekull doedd dim olion awyrennau ychwaith!

Cychwynnwyd y daith o Eglwys Sant Catwg, safle hanesyddol iawn sydd yn awr eglwys canoloesol. Cysegrwyd yr eglwys er cof Sant Catwg, mab henaf Brenin Gwynllyw o Wynllŵg a Santes Gwladus a oedd yn ferch Brenin Brychan o Brecheiniog.

Ben Jones oedd arweinydd y daith, ac aethom heibio i safle’r gwersyll Rhufeinig, cyn bwrw ymlaen dros ben y comin ar ein ffordd i Gapel Gwladus, lle adroddodd Ben hanes Santes Gwladus. Clywom am ei gŵr Gwynllyw Filwr, a oedd yn forlleidr yn ôl y sôn. Cipiwyd Gwladus gan Gwynllyw a’i filwyr ar ôl i’w thad gwrthod gadael iddi briodi ag ef. Blynyddoedd wedyn trodd Gwynllyw at Iesu ac adeiladu cell meudwy yng Nghasnewydd, ar safle lle mae Eglwys Gadeiriol Gwynllyw (St. Woolos), yn sefyll arno heddiw. Ar ôl ychydig, symudodd Gwladus i Bassaleg, ac wedyn i gell meudwy yng Ngelligaer a enwyd Capel Gwladys.

Erbyn i ni ddychwelyd i Eglwys Sant Catwg, roedd chwant bwyd ar bawb, felly aethom i dafarn yr Hollybush yn Nelson lle mwynheuom bryd o fwyd blasus i orffen y daith ardderchog.
O Gelligaer i Gapel Gwladus
20/04/2010

Digwyddiadau

Menter Caerffili
Cylch Cinio. Dewch i gael cinio gyda ni ac ymarfer eich Cymraeg gyda dysgwyr a siaradwyr eraill. I archebu lle, gysylltwch â Menter Caerffili 01443 820913 menter@caerffili.org
Tafarn Arglwydd Nelson, Nelson
12:00 Dydd Gwener 10/09/2010

Menter Caerffili & Sustrans
Taith Beicio. Mae'r daith yn addas i bawb felly dewch â'r teulu i fwynhau tipyn bach o awyr iach! Gellir llogi beiciau am ddim, ond rhaid eu harchebu gyda Menter Caerffili o flaen llaw. Bydd y daith yn para tua 1.5 awr
Cwrdd ym maes parcio Ty Penallta (swyddfeydd y Cyngor), Tredomen.
10:30 Dydd Sadwrn 11/09/2010

Canolfan Gymunedol Gristnogol Siloh
Nosweithiau Cymreig. Dewch i fwynhau siarad a chanu yn Gymraeg! Noson i fwynhau cymdeithasu ac ail gysylltu gyda’n diwylliant cyfoethog Cristnogol Cymreig. Croeso i ddysgwyr a siaradwyr rhugl. Rydym yn cwrdd yn fisol, ar ail nos Lun pob mis.
Canolfan Gymunedol Gristnogol Siloh, Stryd Oakfield, Ystrad Mynach
8:00 Dydd Llun 13/09/2010

Menter Caerffili
Clwb Darllen Caerffili. Ydych chi'n mwynhau darllen a thrafod yn Gymraeg? Beth am ymuno â'n clybiau darllen sy'n rhoi cyfle i ddarllen amrywiaeth o bethau mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar. Mae'r Clwb Darllen yn cwrdd unwaith y mis ar brynhawn dydd Mawrth. Cysylltwch â ni er mwyn derbyn pecyn ar gyfer y clwb nesaf.
Llyfrgell Caerffili
1:30-3:00yp Dydd Mawrth 14/09/2010

Menter Caerffili
Noson Gwis Cwis y Fenter yn Nhafarn y Capel, Gilfach. Dewch i gymryd rhan yn ein cwis a fydd yn addas i siaradwyr rhugl a dysgwyr. Dewch â thîm neu ymuno ag un ar y noson. Pris: £3 yn cynnwys cwis, brechdanau a sglodion! Cysylltwch â ni ar 01443 820913/emilycole@mentercaerffili.org i gofrestru.
Tafarn Y Capel, Gilfach Fargod
7:30yh Dydd Gwener 17/09/2010

Menter Caerffili
YMCA Bargod,
Aeron Place, Gilfach Fargod, Bargod CF81 8JA
Ffôn: 01443 820913
.
 
Bwrdd yr Iaith Gymraeg

Menter Iaith Sir Caerffili - Elusen Gofrestredig rhif: 1105172 Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant rhif: 5096968

Bargoed Deri Pontllanffraith Rhisga Caerffili Rhymni Bedwas Ystrad Mynach Senghennydd Llanbradach Machen Trecelyn Abercarn Fochriw Hengoed Nelson