Prosiect Treftadaeth Ddigidol

Treftadaeth

Mae Menter Caerffili’n cychwyn prosiect newydd cyffrous i gofnodi treftadaeth ein hardal trwy gyfrwng straeon digidol.

Ariennir y prosiect hwn gan Y Loteri Genedlaethol trwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri, ac yn bwriadu cofnodi profiadau unigol pobl yr ardal a’u teuluoedd.

Mae’r ardal wedi newid cymaint dros y blynyddoedd o le amaethyddol, i le diwydiannol, ac wedyn i’r lle rydym yn ei adnabod heddiw.

Mae’r hen draddodiad o ailadrodd hanesion ein cyndadau’n darfod, felly rydym yn colli cymaint o straeon unigryw – straeon unigolion yr ardal: straeon eich teulu efallai.

Treftadaeth

Beth ydy’ch atgofion o dyfu lan yn yr ardal? A wnaethoch swydd sydd wedi diflannu erbyn hyn? Pa newidiadau a ydych wedi’u gweld yn yr ardal? Oes atgofion y Rhyfel neu ddiwydiant glo gyda chi? Beth wnaethoch yn ystod gaeaf eiraog neu haf poeth?  Ydych wedi dychwelyd i’r ardal ar ôl symud i ffwrdd? Ydych yn cofio clywed am hanesion aelodau hŷn eich teulu?

Nawr, mae’r cyfle i’w cadw wrth wneud stori ddigidol. Cynhaliwn weithdai ar draws y sir er mwyn galluogi pobl i recordio darnau pwysig eu hanes neu hanes eu teuluoedd. Does dim angen profiad cyfrifiadurol neu sgiliau technolegol, byddwn yma i’ch helpu.

Treftadaeth

Peidiwch â chadw’ch straeon i’ch hunan, cofrestrwch yma er mwyn creu stori ddigidol!

Cronfa Dreftadeth y Loteri

 

 

Storiau Digidol >>

 

 

Ac un arall >>

 

Dewisiwch >>

 

Taith Canada Owen Rhys

 

Fy Mrawd gan Owain Jones

 

Newid gan Helen Parfitt

 

Ann Williams yn Hel Achau

 

Howard Badham - Penallta and Me

Senghenydd ac Abertridwr

Foot and Mouth

 

The Terraces

 

Elizaberth Lloyd

 

David Parry

 

Cliff James

 

Megan Golding

 

Nia Golding

 

Sali Golding

 

 

 

 

 

Menter Caerffili
YMCA Bargod,
Aeron Place, Gilfach Fargod, Bargod CF81 8JA
Ffôn: 01443 820913
.
 
Bwrdd yr Iaith Gymraeg

Menter Iaith Sir Caerffili - Elusen Gofrestredig rhif: 1105172 Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant rhif: 5096968

Bargoed Deri Pontllanffraith Rhisga Caerffili Rhymni Bedwas Ystrad Mynach Senghennydd Llanbradach Machen Trecelyn Abercarn Fochriw Hengoed Nelson